Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Offerynnau Statudol Gydag Adroddiadau Clir

 

12 Mai 2014

 

CLA396 – Gorchymyn Rhestrau Ardrethu (Gohirio Gwneud Rhestrau) (Cymru) 2014

Gweithdrefn:  Cadarnhaol

Mae Adran 54A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud gorchymyn sy’n gohirio’r dyddiad y dylid llunio’r rhestrau ardrethu annomestig newydd yng Nghymru o 1 Ebrill 2015 i ddyddiad a bennir ynddo. Mae’r Gorchymyn hwn yn pennu 1 Ebrill 2017 at ddibenion adran 54A.

CLA397 – Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi (Diwygio) (Cymru) 2014

Gweithdrefn:  Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 2 i Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi (Diwygio) (Cymru) 2014. Mae Atodlen 2 yn rhestru dyfroedd wyneb yng Nghymru y mae Gweinidogion Cymru yn disgwyl y bydd nifer fawr o bobl yn ymdrochi ynddynt. Mae Llyn Padarn a Dwyrain y Rhyl wedi’u hychwanegu at y rhestr o ddyfroedd wyneb a nodir yn Atodlen 2

CLA398 - Rheoliadau Trosglwyddo Swyddogaethau (Bwyd) (Cymru) 2014

Gweithdrefn: 
Negyddol

O 1 Hydref 2010 ymlaen, trosglwyddwyd y polisi maeth o’r Asiantaeth Safonau bwyd i Weinidogion Cymru yng Nghymru (ac i’r Adran Iechyd yn Lloegr). Gan adlewyrchu hynny, mae’r Rheoliadau hyn yn trosglwyddo swyddogaethau maeth mewn perthynas â Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000, Rheoliadau Hysbysiadau o Farchnata Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Cymru) 2007, Rheoliadau Honiadau am Faethiad ac Iechyd (Cymru) 2007 a Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2007 o’r Asiantaeth Safonau Bwyd i Weinidogion Cymru.

CLA399 Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) (Diwygio) 2014

Gweithdrefn: 
Negyddol

Mae’r rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007 sy’n darparu ar gyfer talu treuliau teithio a pheidio â chodi taliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol drwy gyfeirio at derfynau incwm a chyfalaf.

Mae’r Rheoliadau hyn yn cynyddu’r terfyn cyfalaf i £24,000, yn weithredol o 20 Mai 2014.